Ein gweledigaeth a'n cenhadaeth

Ein nod yw gwella iechyd, lles ac amgylchedd cymunedau Ynys Môn.

Rydym yn gwneud hyn drwy weithio gyda, a chyfrannu'n uniongyrchol i gymunedau Môn. Maent yn ymwybodol iawn o’u hamgylchiadau, ac rydym yn parchu mai nhw sydd â’r atebion i'r heriau a wynebir ganddynt.

Rydym am i'n Hynys ffynnu. A thrwy gefnogi pobl a sefydliadau lleol, gallwn adeiladu cymunedau hyderus a gwydn lle gall pawb gyflawni hyd at eithaf eu gallu. 

 

Ein gwerthoedd

Rydym yn ymrwymo i fod yn:

  • – i anghenion ein cymunedau a'r amgylchiadau y maent yn eu hwynebu.

  • - yn ein hymrwymiad i ddod â phobl, cymunedau a sefydliadau at ei gilydd mewn ffyrdd sy'n ein galluogi i anelu at nodau cyffredin, pontio perthnasau a meithrin gweledigaeth ar y cyd.

  • – drwy groesawu newid drwy greadigrwydd a chwilfrydedd.

  • – drwy anrhydeddu gwerth ac urddas sylfaenol pob unigolyn, gan greu a chynnal amgylchedd sy'n parchu iaith, traddodiadau, treftadaeth a phrofiadau amrywiol.

  • – yn ein hymroddiad i gefnogi arferion cynaliadwy a chreu newid cadarnhaol ar gyfer y prosiectau, partneriaid a chymunedau rydym yn gweithio gyda.