Sut rydym yn gweithio

 

Ym mis Ionawr 2022, cytunodd yr Ymddiriedolwyr yn unfrydol i fabwysiadu strwythur llywodraethu Aelodaeth i helpu i ddiogelu'r gronfa ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae hyn yn golygu bod gennym ddwy haen o lywodraethu: Aelodaeth, a etholwyd gan bobl Ynys Môn, a Bwrdd Ymddiriedolwyr, wedi'i ethol, ei benodi ac yn meddu ar y sgiliau, y priodoleddau a'r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein hamcanion elusennol.

Mae aelodaeth o'r elusen yn ex-officio. Mae hyn yn golygu bod pob Cynghorydd Sir bresennol Ynys Môn yn etifeddu eu rôl pan gânt eu hethol i'w swydd. 

Mae aelodau'n gyfrifol am ethol a phenodi ein holl Ymddiriedolwyr, gan graffu ar ein Hadroddiadau Blynyddol, a sicrhau bod ein cyfansoddiad yn dal yn addas i'r diben. Maent yn cyfarfod â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr unwaith y flwyddyn i gyflawni'r dyletswyddau hyn. 

Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gennym strategaeth glir ar rhoi grantiau i ddarparu arian yn uniongyrchol i'n cymunedau, a bod ein gwaith a'n nodau yn cyd-fynd â'n gweledigaeth.  

Mae newid pwy all bellach wasanaethu ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn golygu y gallwn adlewyrchu'n well amrywiaeth y cymunedau yr ydym yn eu cefnogi, a'u profiadau byw. Dyma'r cam cyntaf yn ein hymrwymiad i sicrhau bod ein cymunedau'n cael eu cynrychioli'n well yn ein proses o wneud grantiau.

Sut mae Ymddiriedolwyr yn cael eu hethol neu eu penodi?

 
  • Mae chwech o'n 12 Ymddiriedolwr yn Ymddiriedolwyr Etholedig.

    Caiff Ymddiriedolwyr Etholedig eu hethol gan, ac o fewn Aelodaeth yr elusen.

    Bob trydydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gwahoddir yr Aelodau i enwebu eu hunain i wasanaethu ar y Bwrdd. Rhaid i Aelodau ddangos tystiolaeth o'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad sydd ganddynt yn unol â manyleb person.

    Ar ôl derbyn enwebiadau, gwahoddir yr Aelodaeth i bleidleisio dros yr ymgeiswyr y credant fydd yn gwasanaethu buddiannau'r elusen orau ac yn hyrwyddo ein hamcanion elusennol.

    Mae'n ofynnol i bob Aelod ddilyn ein Polisi Etholiad ar gyfer Ymddiriedolwyr Etholedig.

    Mae pob un o'n Haelodau hefyd yn Gynghorwyr. Rhaid i Aelodau weithredu'n anhunanol i hybu buddiannau'r elusen, hyd yn oed os ydynt yno am eu bod yn cynrychioli corff arall. Mae gan bob Aelod ac Ymddiriedolwr ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu ein hannibyniaeth.

    Ar y sail hon, ac yn unol â chanllawiau'r Comisiwn Elusennau, mae'r Aelodaeth yn ethol ar sail sgiliau a phrofiad personol yn unig, ac nid ar sail cynrychiolaeth bleidiol wleidyddol.

  • Mae chwech o'n 12 Ymddiriedolwr yn Ymddiriedolwyr a Benodir yn annibynnol. Rhaid i Gadeirydd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr hefyd fod yn Ymddiriedolwr a Benodir yn annibynnol.

    Cyn pob trydydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, cynhelir proses recriwtio agored ar gyfer swyddi gwag Ymddiriedolwyr ar y Bwrdd. Mae'r Ymddiriedolwyr yn gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd ond gallant wasanaethu am dymor olynol.

    Caiff Ymddiriedolwyr Penodedig eu recriwtio ar y sgiliau, y profiad a'r rhinweddau sy'n ofynnol gan yr elusen ar yr adeg benodol. Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn asesu anghenion yr elusen yn rheolaidd ac yn cynnal archwiliad o unrhyw sgiliau coll. Mae Bwrdd sydd ag ehangder o wybodaeth a phrofiad yn hanfodol i sicrhau bod yr elusen yn cyflawni ei amcanion.

    Er mwyn diogelu annibyniaeth yr elusen, ni ddylai Ymddiriedolwyr Penodedig fod wedi gwasanaethu fel Cynghorwyr nac wedi gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn yn ystod y pum mlynedd flaenorol.

  • Cyflwynodd 8 Aelod o’r Gymdeithas eu henwebiadau i eistedd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

    Rhwng 21 a 30 Mehefin, 2022, cynhaliwyd etholiad rhithiol i'r Aelodaeth benderfynu pa un o'r enwebeion hyn fyddai'n gwasanaethu ar y Bwrdd orau.

    Cymeradwywyd canlyniadau'r etholiad a manylion yr Ymddiriedolwyr Etholedig llwyddiannus yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 26 Gorffennaf, 2022 - sef:

    • Non Dafydd

    • Trefor Lloyd Hughes

    • Gary Pritchard

    • Dafydd Roberts

    • Neville Evans

    • Jackie Lewis

    Gallwch pori manylion y canlyniad yma.

  • Ar 30 Medi 2022, cymeradwywyd chwe Ymddiriedolwr Penodedig annibynnol, gan gynnwys Cadeirydd i'r Bwrdd gan yr Aelodaeth:

    • Dr Edward T Jones (Chair)

    • Trefor Owen

    • Elen Jones

    • Deborah Chafer

    • Dr Lowri Angharad Hughes

    • Ann Tooze

    Bydd rhagor o fanylion am yr apwyntiadau yn cael eu cyhoeddi maes o law.