Ein cyllid

Mae ceisiadau bellach ar agor.

Rydym yn ariannu grwpiau cymunedol a mudiadau sy’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled Ynys Môn.

Mae ein gwahanol opsiynau cyllido i’w gweld isod. Darllenwch y wybodaeth am y cyllid a’r gofynion perthnasol cyn dechrau eich cais.

Amserlen

Gallwch gyflwyno cais unrhyw bryd tra bod ein porth ceisiadau ar agor. Eleni, byddwn yn ystyried ceisiadau mewn dau gylch, gyda’r dyddiadau cau canlynol:

12.00yp, dydd Gwener 30 Tachwedd 2026
Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am y canlyniad ym mis Ionawr 2027.

12.00 yp, dydd Mercher 31 Mawrth 2027
Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am y canlyniad ym mis Mai 2027.

Bydd ceisiadau sy’n dod i law erbyn pob dyddiad cau yn cael eu hasesu gyda’i gilydd ac yna eu hystyried gan ein Hymddiriedolwyr.

Gallwch gyflwyno eich cais unrhyw bryd cyn y dyddiad cau perthnasol. Os bydd cais yn dod i law ar ôl 12.00yp ar 30 Tachwedd 2026, bydd yn cael ei ystyried yng nghylch mis Mawrth 2027.

Ar ôl hynny, y dyddiad cau nesaf fydd 30 Tachwedd 2027. Bydd y porth yn ailagor ym mis Awst 2027 ar gyfer y rownd honno.

Ddim yn siŵr a allwch wneud cais?

Cysylltwch â ni. Da ni’n hapus i sgwrsio am bethau cyn i chi ddechrau.