Allwch chi helpu? Ymgeisiwch fel Ymddiriedolwr!
Rydym nawr yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd i helpu i arwain ein gwaith a llunio dyfodol y gronfa.
Mae ein hymddiriedolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth benderfynu i ble mae ein harian yn mynd, sut rydym yn cefnogi cymunedau, a sut rydym yn amddiffyn y gronfa ar gyfer y dyfodol. Mae hon yn rôl lywodraethu ymarferol - mae ymddiriedolwyr hefyd yn helpu i asesu a sgorio ceisiadau am grantiau, gan ddod â'u profiad a'u mewnwelediad i'n penderfyniadau ariannu.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Rydym eisiau pobl sy'n angerddol am Ynys Môn ac sy'n barod i gymryd rhan mewn llunio ei dyfodol. Gallech ddod â:
- Sgiliau mewn meysydd fel cyllid, y gyfraith, llywodraethu, datblygu cymunedol, neu godi arian.
- Profiad byw o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu cymunedau ein hynys.
- Ymrwymiad i degwch, tryloywder, a gwneud penderfyniadau annibynnol.
Nid oes angen i chi fod wedi bod yn ymddiriedolwr o'r blaen - darperir hyfforddiant a chefnogaeth.
Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir ac eisiau i'n bwrdd adlewyrchu amrywiaeth yr ynys.
Ymrwymiad:
- Tua chwe chyfarfod y flwyddyn (cymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein), pob un yn para 2–3 awr.
- Adolygu papurau ac asesu ceisiadau am gyllid ymlaen llaw (tua 8–10 awr y mis, yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a dderbynnir)
- Ymweliadau achlysurol â phrosiectau a ariennir neu gyfarfodydd cymunedol
Pam ymuno â ni?
- Dylanwadu ar sut mae cyllid yn cael ei fuddsoddi yn Ynys Môn
- Dysgu am lywodraethu, rhoi grantiau, a blaenoriaethau cymunedol
- Gweithio ochr yn ochr â phobl sydd â brwdfrydedd cyffredin dros ddyfodol ein hynys
- Gwneud penderfyniadau sydd â effaith uniongyrchol, gadarnhaol ar bobl leol
Sut i ymgeisio
Anfonwch eich CV a/neu lythyr eglurhaol byr atom yn dweud wrthym:
• Pam yr hoffech fod yn ymddiriedolwr
• Pa sgiliau, profiad, neu safbwyntiau y byddech chi'n eu cynnig
• Unrhyw beth arall yr ydych chi'n meddwl y dylem ni ei wybod
E-bost: post@elusennol.org
Dyddiad cau: 27 Awst 2025, 12.00yp
Am rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch y pecyn cais neu e-bostiwch ein Prif Weithredwr, Celyn Edwards: celyn@elusennol.org
Lawrlwytho: Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Diweddariad: Ebrill 2025
Cliciwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein newyddion, diweddariadau cyllido a gweithgarwch cymunedol.
Diweddariad: Ionawr 2025
Cliciwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein newyddion, diweddariadau cyllido a gweithgarwch cymunedol.
Cyfarfod â’r Cyllidwr
Ionawr 21, 2025
Caffi Siop Mechell
Llanfechell
Rydym yn cydweithio â phartneriaid i agor cyfleoedd cyllido treftadaeth ar gyfer cymunedau ledled Ynys Môn. Os ydych chi’n rhan o grŵp lleol gydag awydd i wneud rhywbeth – neu’n chwilfrydig am sut mae treftadaeth yn berthnasol i’ch gwaith – mae hwn yn gyfle i ddechrau’r sgwrs!